Harbwr Aberaeron, Ceredigion
Meddwl am ymweld â Chanolbarth Cymru? Mae'n lle hudolus gydag amrywiaeth unigryw o fynyddoedd hardd, arfordir arbennig a chefn gwlad sydd heb ei ddifetha. Mae'n lleoliad ardderchog i ddarganfod cyfoeth o weithgareddau, o gerdded, beicio, pysgota, golff, marchogaeth a llawer mwy.
Mae llawer o ddiwylliant a threftadaeth yn perthyn i'r ardal. Beth am fynd i'r amgueddfeydd ac i weld y cestyll a'r safleoedd cynhanesyddol sydd yno.