Canolfan Y Dechnoleg Amgen, Machynlleth
Mae Canolbarth Cymru'n cael ei ystyried yn un o'r cyrchfannau gorau i'r rhai sy'n ceisio nid yn unig wyliau mwy ecogyfeillgar ond sydd am ddysgu rhagor am sut i wneud eich bywyd beunyddiol ychydig bach yn wyrddach. Dyma rai o'r lleoedd a'r gweithgareddau all wneud eich gwyrddni yn fwy credadwy -
Y man cychwyn delfrydol yw Canolfan Y Dechnoleg Amgen, Machynlleth lle gall ymwelwyr ddysgu am fyw'n gynaliadwy, newid yn yr hinsawdd, llygredd a gwastraffu adnoddau gwerthfawr.
Hefyd, meddyliwch am y lluniau newydd hynny sy'n cael eu dangos rhwng rhaglenni'r BBC i'ch atgoffa eich bod yn gwylio'r BBC. Cafodd y lluniau o'r barcutiaid coch a'r twyni tywod eu tynnu yn y warchodfa natur yn Ynyslas, ger y Borth yng Ngheredigion, un o'r nifer o safleoedd cadwraeth arbennig sy'n cael eu rheoli gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ar draws y rhanbarth (www.tvradiobits.co.uk).
Mae gan yr RSPB warchodfa hefyd yn Ynyshir, ychydig i lawr y ffordd. Mae'r warchodfa hon ar ochr ddeheuol aber afon Dyfi yn cynnig cymysgedd o goetir derw Cymreig a glaswelltiroedd gwlyb a morfeydd yr aber. Mae'r gwanwyn yn amser ardderchog i ymweld â'r coetir pan mae'n llawn adar megis telorion y Coed, cornchwiglod a phibyddion coesgoch, yn ogystal â blancedi o flodau'r gwanwyn.
Pan ystyriwch brosiectau gwyrdd eraill megis cynllun hydro-electrig y ffermwr lleol Tegwyn Jones a Thyrbin Gwynt Cymunedol Bro Dyfi – cwmni cydweithredol lleol sydd wedi codi ei ail dyrbin gwynt – gallwch weld fod y chwilen werdd wedi gafael ym mhob ardal o'r Canolbarth.
Heb os, cerdded yw'r gweithgaredd mwyaf amgylcheddol gyfeillgar i'r ymwelydd. Yn ogystal â nifer o wyliau cerdded, mae Canolbarth Cymru'n cynnig teithiau herio trwy Fannau Brycheiniog ysblennydd; gwylltineb gwasgarog Mynyddoedd Cambria; troeon haws trwy goedwigoedd ac ar hyd afonydd; barcutiaid yn y cymoedd o amgylch Nant-yr-Arian; gwrthryfeloedd canoloesol ar hyd Ffordd Glyndŵr a'r ymdaith ar hyd Clawdd Offa.
Mae seiclo'n ffordd ecogyfeillgar arall o dreulio amser. Mae dau lwybr newydd ar Rwydwaith Seiclo Cenedlaethol Sustrans yn mynd drwy'r ardal – mae Lôn Teifi (llwybr 82) o Aberystwyth i Abergwaun yn cysylltu trefi gwledig ar hyd Dyffryn Teifi ac mae Lôn Cambria (llwybr 81) yn mynd â reidwyr o lan y môr yn Aberystwyth i Amwythig yn y Gororau (neu unrhyw le ar y ffordd). Mae ‘Cycle Breaks Wales’ hefyd yn cynnig nifer o lwybrau yn y Canolbarth, gan gynnwys Aberaeron a Chei Newydd; Llanbedr Pont Steffan a Thregaron; a Rhaeadr Gwy, pob un wedi ei raddio i roi mwy neu lai o her.
Mae ymdeimlad gwyrdd i rai o ganolfannau beicio mynydd a chanolfannau gweithgareddau coedwigaeth yr ardal, hefyd. Ers agor y ganolfan ymwelwyr £1.6m fis Awst diwethaf, mae Coed y Brenin yn creu tipyn o gyffro, ond nid ym myd beicio mynydd yn unig. Mae'r ganolfan yn enghraifft dda o ddatblygu cynaliadwy gyda defnydd ardderchog o olau naturiol, ‘synwyryddion is-goch goddefol’ sy'n sicrhau bod systemau megis goleuadau ond yn gweithio pan mae eu hangen nhw; adeiladu'r ganolfan o bren gan ddefnyddio pren lleol; ei ffynonellau dŷr ei hunan; ynni'r haul; hyd yn oed wrinalau Airflush! Ychydig i lawr y ffordd mae Dyfi Mountain Biking, cwmni cymunedol gwirfoddol lleol sy'n gosod a rhedeg llwybrau yn ardal Machynlleth. Mae canolfan gyfagos Nantyrarian hyd yn oed yn cynnig bwyler biomas i gynhesu'r ganolfan ymwelwyr â thema barcud.
Mae Under the Thatch yn Ne Ceredigion yn cael ei redeg ar egwyddorion twristiaeth gynaliadwy ac yn cynnig amrywiaeth o lety o fythynnod traddodiadol a charafannau sipsiwn, i gabanau pren yn y goedwig a cherbydau rheilffordd wedi eu trawsnewid. Mae Tipi Eco Retreats ger Machynlleth yn rhoi cyfle i ymwelwyr aros mewn tipis go iawn, pob un yn cynnwys gwely dwbl, clustogau, rygiau croen dafad a ‘chiminea’ llosgi coed yn y canol. Stablau o'r 1840 sydd wedi eu trawsnewid yw'r Hen Stablau. Cawson nhw eu paentio â phaent organig ac maen nhw'n defnyddio ynni'r haul.