Mae Canolbarth Cymru'n ymestyn i'r gogledd hyd at Dde Eryri a'r Parc Cenedlaethol ac yna i lawr yr arfordir i Aberteifi yn ne Ceredigion a thua'r dwyrain i'r Bannau Brycheiniog. Mae Canolbarth Cymru'n cynnwys tair sir, Ceredigion, Powys a Meirionnydd.
Cliciwch drwy i dudalenau sirol am restr o wefannau twristiaeth rhanbarthol, ardal a tref, Ceredigion, Eryri Mynyddoedd a Môr a Canolbarth Cymru a Bannau Brycheiniog.
Aberdyfi - Mae'r awdur teithiau adnabyddus, Bill Bryson yn cyfeirio at y pentref fel ‘cymuned fach lan-y-môr berffaith’. Mae pentref Aberdyfi yn edrych dros yr aber lle mae'r afon Dyfi'n llifo i Fae Ceredigion. Mae'n lleoliad delfrydol i'r rhai sy'n mwynhau gwyliau gweithgar - gyda'r traeth (sydd wedi ennill gwobr) lle gallwch chi nofio, syrffio a syrffio barcud. Hefyd mae un o gyrsiau golff gorau Cymru yn Aberdyfi yn ogystal â Chanolfan Gweithgareddau Awyr Agored.
Bala - Hen dref farchnad sydd wedi'i lleoli ger Llyn Tegid, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Fe ddaw nifer yma i fwynhau chwaraeon dŵr ar y llyn gan fanteisio ar y gwyntoedd a chwythir ar draws y dyffryn. Mae trên stêm Llyn Bala'n mynd am sawl cilomedr ar hyd glan deheuol y llyn. Yn y Bala hefyd y mae'r Ganolfan Genedlaethol Rafftio Dŵr Gwyn ar Afon Tryweryn. Cynhelir nifer o bencampwriaethau byd yno.
Aberaeron - Tref harbwr Georgaidd ac un o drefi gwyliau harddaf Cymru. Nodwedd amlycaf y dref yw'r bensaernïaeth sydd yno gan fod nifer o adeiladau'r dref wedi'u dynodi'n safleoedd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol arbennig.
Aberystwyth - Tref Brifysgol brysur. Mae Aber, a'i thraethau traddodiadol (sydd wedi ennill gwobrau), yn un o hoff drefi glan-y-môr traddodiadol Cymru. Dyma'r dref fwyaf yng Ngheredigion, ac mae nifer o atyniadau yma i ymwelwyr.
Aberteifi - Tref farchnad brysur a chanolfan fasnachol a diwylliannol hynafol Gymreig ar aber yr afon Teifi. Dyma ardal ddelfrydol i gerddwyr - beth am gerdded ar lwybrau arfordirol Arfordir Treftadaeth Ceredigion a llwybrau Dyffryn Teifi?
Llanbedr Pont Steffan - tref farchnad brysur yn Nyffryn Teifi sy'n gartref i Brifysgol hynaf Cymru.
Cei Newydd - tref lan-y-môr boblogaidd a hardd. Credir mai'r dref fechan yma, gyda'i thraethau tywodlyd euraidd, a'i harbwr cysgodol, ei thai bach lliwgar a'i strydoedd cul troellog a ysbrydolodd Dylan Thomas i ysgrifennu am Lanreggub yn Dan y Wenallt. Fe fu unwaith yn ganolfan adeiladu llongau lewyrchus ac yn borthladd pysgota. Ond erbyn heddiw mae'r dref yn denu rhai â diddordeb mewn byd natur sy'n dod i weld y morloi, dolffiniaid a rhywogaethau prin eraill o fywyd môr ac adar.
Tregaron - tref farchnad ger yr ardal fynyddig lle mae'r Afon Teifi'n tarddu. Mae wedi'i lleoli ym mhen Deheuol Cors Goch Caron, cors â thir cochlyd sydd wedi'i dynodi'n Warchodfa Natur Genedlaethol. Mae'n enwog am yr amrywiaeth o adar sydd yno, gan gynnwys y Barcud Coch prin.
Aberhonddu - tref hanesyddol gyda'i heglwys gadeiriol. Mae wedi'i lleoli yng nghysgod Bannau Brycheiniog ar lannau'r Afon Wysg. Canolfan brysur cyn i chi anelu am Fannau Brycheiniog - sydd tua 300 metr o ganol y dref.
Llanfair ym Muallt - tref amaethyddol ar lannau'r Afon Gwy a chartref i sioe amaethyddol fwyaf Prydain, Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru. Mae Llanfair ym Muallt yn dref farchnad fywiog ac mae ynddi adeiladau hardd a phensaernïaeth arbennig sy'n perthyn i ddiwedd y 19eg ganrif.
Llandrindod - tref sba Fictoraidd gydag adeiladau cyhoeddus crand. Mae rhyw naws fonheddig yn perthyn i'r dref. Dyma dref sba fwyaf yng Nghanolbarth Cymru, a'r enwocaf hefyd.
Machynlleth - prifddinas Cymru yn hanesyddol. Mae ‘Mach’ yn dref farchnad fach a phoblogaeth o oddeutu 2000. Mae wedi'i lleoli yn rhan isaf dyffryn Dyfi, tua 10 milltir o'r arfordir. Mae llawer o hanes a diwylliant yn perthyn i'r dref - yma fu senedd-dŷ Owain Glyndŵr yn 1404. Heddiw nodwedd amlycaf y dref yw Tŵr y Cloc sydd bron yn 80 troedfedd o uchder. Fe gafodd ei adeiladu yn hanner olaf y 19 eg ganrif.
Trallwng - tref farchnad brysur wedi'i lleoli yn rhannau uchaf Dyffryn Hafren. Yn draddodiadol roedd yn ganolfan amaethyddol, yn gartref i farchnad ddefaid fwyaf Ewrop. Mae'r Trallwng yn lle canolog a delfrydol i aros yno er mwyn teithio drwy'r wlad sydd o gwmpas ac ymweld â rhai o atyniadau niferus yr ardal.