Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Ceredigion

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Ceredigion

Pethau i'w gwneud yng Nghanolbarth Cymru

Mae Canolbarth Cymru'n fae chwarae perffaith i’r rhai sydd am gymryd rhan mewn gweithgareddau – er enghraifft chwaraeon dŵr, cerdded, beicio, pysgota, marchogaeth a hyd yn oed paragleidio - i enwi dim ond rhai o'r gweithgareddau sydd ar gael.

Mae llawer o hanes a diwylliant yn perthyn i Ganolbarth Cymru. Fe allwch chi fynd am dro i weld safleoedd cynhanesydol, cestyll uchel a cheyrydd unig, amgueddfeydd, eglwysi, theatrau ac orielau - heb anghofio ein cerddoriaeth a'n hiaith.

Diwrnod i'r brenin… beth am fwynhau'r golygfeydd gwych drwy deithio ar drên stêm; cerdded ar hyd llwybr tawel drwy'r goedwig neu wylio'r haul yn machlud ar y traeth. Mae digon o atyniadau yn yr ardal i ddiddori plant. Mae rhywbeth i bawb yma!

Beth am gael blas ar Ganolbarth Cymru drwy fynd i rai o'r digwyddiadau a gynhelir yn yr ardal? O Ŵyl Jazz enwog Aberhonddu i Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru i ddigwyddiadau llai a gynhelir yn y cymunedau. Mae digon o ddewis drwy'r flwyddyn, a rhywbeth at ddant pawb.